Fersiwn newydd sbon o’r cofiant a gyhoeddwyd dan y teitl Gwae Fi fy Myw: Cofiant Hedd Wyn ym 1991 yw hwn. Nid ailargraffiad mohono. Ffrwyth yr ymchwil a wnaed yn wreiddiol ar gyfer sgriptio’r ffilm Hedd Wyn oedd argraffiad 1991 o’r cofiant. Trwy gydol y blynyddoedd oddi ar hynny, bu Alan Llwyd yn darlithio ar Hedd Wyn a bu’n chwilio am ddeunydd a gwybodaeth newydd amdano ef a’i farddoniaeth trwy’r amser. Mae’r fersiwn newydd hwn yn cynnwys llawer iawn o wybodaeth newydd am Hedd Wyn, fel y llythyr dadlennol a anfonodd o’r Ffrynt at Isaac Davies, Ysgrifennydd Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead, ychydig wythnosau cyn iddo gael ei ladd. Beth yn union a ddigwyddodd yn Eisteddfod y Gadair Ddu? Sut effaith gafodd marwolaeth Hedd Wyn ar Gymru ar y pryd?