Mae Ditectif Danny Finch yn colli ei swydd ar ôl cael ei gyhuddo o dwyll. Mae’n colli popeth – ei swydd, ei bensiwn a’i hunan-barch. Mae’n cael gwaith fel swyddog diogelwch i Pete Gibson, ‘dyn busnes’ lleol. Mae Danny’n chwerw tuag at yr heddlu ac yn cau ei lygaid i fusnes anghyfreithlon ei fòs. Ond ar ôl gwrthod cyfle i fod yn rhan o ‘fusnes’ Gibson, mae’r dihiryn yn cynllwynio yn ei erbyn. Un diwrnod daw’r heddlu i chwalu’r drws ffrynt, arestio Danny a’i wraig a chymryd eu mab, Owain, at ofal y gwasanaethau cymdeithasol… Gyda themâu sy’n cynnwys twyll (ar lefel bersonol a sefydliadol), trais a dial, perthnasau, edifar a methiant, dyma nofel anturus fydd yn cyffroi darllenwyr ac yn eu darbwyllo i gadw ati i droi’r tudalennau. Bydd Danny Finch yn adnabyddus i rai o ddarllennwyr nofelau eraill Llwyd Owen, wrth iddo ymddangos fel cymeriad ymylol yn Mr Blaidd a Heulfan.