Nofel hanesyddol afaelgar sydd wedi derbyn canmoliaeth uchel gan feiriniaid y Fedal Ryddiaith. Buddsoddodd Owain Myfyr ffortiwn mewn cyhoeddi llyfrau a chylchgronau Cymraeg yn ystod y 18fed ganrif. Wedi pymtheg mlynedd o gydweithio, cyhuddodd Iolo Morganwg o ffugio rhai o'r gweithiau hynny. Yn Ebrill 1806 drafftiodd Iolo Morganwg ei ateb. Nid anfonodd ef. Ond beth petai Iolo wedi penderfynu mynd ar droed i Lundain i gwrdd â'i gyhuddwr wyneb yn wyneb? Mewn llythyr at Iolo ar 28 Gorffennaf 1806, cynigiodd Gwallter Mechain gymodi rhwng y ddau ..." Our life is but short at best, then why should it be poisoned with our mutual accusations of each other? Permit me then to assume the office of Reconciler between you; at least permit me to attempt it." Dyna geisia awdur y nofel yma wneud hefyd. Mae'r nofel yn sôn am barhad ac mae'n awgrymu taw stori yw ein bywydau ni. "Dyma nofel fawr, gwbl wreiddiol sy'n creu awyrgylch ac yn dod â chymeriadau hanesyddol yn fyw mewn ffordd gelfydd a chlyfar." Manon Steffan Ros