‘I can think of few merrier spectacles than that of many windmills bickering together in a fresh breeze in a wooded country . . . ’ meddai Robert Louis Stevenson. Gallai’n hawdd fod wedi gweld y fath olygfa ym Môn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan fod yma, bryd hynny, fwy o felinau nag yn unrhyw ran arall o Gymru. Bu yma felinau dãr hefyd ac er i’r felin ddãr a’r felin wynt, yn eu cyfnod, fod yn rhannol gyfrifol am ‘ . . . ein bara beunyddiol . . . ’, erbyn hyn y mae’r mwyafrif helaeth wedi diflannu ond cyn iddynt fynd yn angof llwyr rhaid cofnodi hanes eu gorffennol. Heddiw, y mae ym Môn yr unig felin wynt weithredol yng Nghymru a nifer o ffermydd melinau gwynt modern ac fel y felin wynt enwog, y maent hwythau â’u lle yn hanes ein hynys a’u rhan i’w chwarae yn ei dyfodol. Cyflwynir ym Melinau Môn hanes melina ar yr ynys gan obeithio y bydd y darllenydd yn cael ei ysgogi i ymweld â’r safleoedd ac ymchwilio’n ddyfnach fel bod yr agwedd hon o hanes lleol yr ynys yn cael ei amlygu a’i gadw ar gyfer y dyfodol.