Mae cenedlaethau o drigolion Amlwch wedi byw yng nghysgod a dringo Mynydd Parys, Môn – a pha ryfedd felly ei fod yn lle agos at galon cynifer o Fonwysion. Ar un adeg dyma’r gwaith prysuraf a phwysicaf drwy Gymru gyfan a dyma’r unig safle lle darganfuwyd olion o gyfnod y Rhufeiniaid, yr Oesoedd Canol ac o gyfnod y Chwyldro Diwydiannol yn yr un fan. Yn y gloddfa fwyn hon y gweithiai Cadi Rondol a’r Hwntw Mawr, sy’n dal i gael eu cofio ar lafar gwlad yr ynys bron i dair canrif yn ddiweddarach. Heddiw, mae Mynydd Parys yn safle o Ddiddordeb Gwyddonol a Hanesyddol Neilltuol ac yn ôl yr awdur, ‘does yna, mewn gwirionedd, unlle tebyg iddo ar wyneb y ddaear!’ O grwydro llwybrau’r mynydd, mae atgofion ac adleisiau sŵn y gwaith i’w clywed gan gadw’n fyw y cof am y sawl fu’n gweithio yno a’u hymdrechion. Wedi’r darllen, ewch i grwydro’r llwybrau eich hunain – a phwy a ŵyr na fydd Cadi Rondol yno yn eich cyfarch!