Nid troi’r byd yn wyrdd sydd ei angen, efallai – ond troi dyn yn wyrdd. Ydi hi’n amser i ni beidio â meddwl mai rhyw greaduriaid rhyfedd o blaned arall yw ‘dynion bychain gwyrdd’? Os na ddysgwn ni wneud hyn, fydd gennym ni ddim planed ar ôl! Mae’r cerddi yn y casgliad hwn yn wynebu’r peryglon sy’n bygwth bywyd ar y ddaear. Maent hefyd yn cynnig y llwybrau eraill y mae’n bosib i ni eu dilyn. Ond gan mai cerddi ydyn nhw, maen nhw’n dweud eu neges mewn ffyrdd sy’n rhoi mwynhad i ni – ac weithiau’n tynnu gwên hyd yn oed. Pan ddowch ar draws penillion Gwyn Morgan sy’n disgrifio sut mae Dad yn arbed ynni drwy ostwng y gwres yn y tŷ, byddwch yn siŵr o fwynhau’r hiwmor! Bu Dad yn troi y thermostat O ugain lawr i ddim Mae Mam (i gadw’n dwym drwy’r dydd) Yn gwisgo sgidiau chwim – Mae’n rhedeg wrth lanhau y tŷ, Mae’n rasio’n gynt a chynt, Mae’n smwddio’n glou, yn hwfro’n wyllt – Mae Mam bach mas o wynt!