‘Ew, lle cawsoch chi’r blodau lliwgar yna?’ ‘O! am sioe o fasged grog! O ble daeth hi?’ ‘Lle ga’ i datws hadyd d’wch?’ ‘Wyddoch chi am rywle sy’n gwerthu coed fala Cymreig?’ Peidiwch â phryderu – mae canolfan arddio deuluol a chyfeillgar hefo’r enw gogleisiol, Tyddyn Sachau, ar y ffin rhwng Llŷn ac Eifionydd all gyflenwi eich anghenion garddio yn ddidrafferth. O hedyn bach a blannwyd yn ôl yn 1947 gan y diweddar Alfred Ferris, tyfodd a blagurodd y busnes gyda chymorth ei fab, y diweddar Brian Ferris. Bu sawl tro ar fyd ers y dyddiau cynnar a’r fenter fawr ddiweddaraf oedd sefydlu Caffi’r Tyddyn yn 2010. Eisoes profodd y caffi’n gyrchfan gyfleus i deuluoedd a ffrindiau gael cyfarfod am ginio blasus a rhesymol neu efallai am banad a chacan wrth roi’r byd yn ei le! Mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys cynghorion a chyfarwyddiadau ynglŷn â beth sydd angen ei wneud yn yr ardd fis wrth fis am flwyddyn gron – a phwy’n well i roi cyngor garddio ichi na theulu Tyddyn Sachau!