D. Picton Jones yw prif arbenigwr Cymru ar fridio a dangos dofednod. Ond does arno ddim angen enw llawn na chyfenw. Mae Pic yn ddigon. Mewn gyrfa sy’n ymestyn dros 70 mlynedd, enillodd erbyn hyn tua phum mil o brif wobrau a bu’n beirniadu ym mhob un o brif sioeau adar gwledydd Prydain. Ond mae Pic o Lanwnnen yn llawer mwy na hynny. Mae’n glamp o gymeriad hefyd. Enillodd anrhydeddau lu. Beirniadodd yn ei dro ddofednod rai o aelodau’r Teulu Brenhinol gan wrthod gwobr gyntaf i’r Tywysog Charles. Greal Sanctaidd y bridwyr yw Cwpan Isherwood, sef prif wobr Sioe Ddofednod Prydain. Ac ym 1981, daeth Pic â’r wobr honno i Gymru am y tro cyntaf oll gyda’i geiliog Brahma. Hwn oedd uchafbwynt un a enillodd ei wobr gyntaf yn ddeg oed ac a ddechreuodd feirniadu yn bymtheg.