Mae’r llyfr Diwinydda Ddoe a Heddiw yn gasgliad o ysgrifau yn ymdrin â phynciau amrywiol o ddiddordeb diwinyddol a beiblaidd. Er bod sawl un o’r ysgrifau yn dyst i ddiwinydda a fu, maent yn ffrwyth ystyriaeth gyfredol. Ymhlith yr ysgrifau ceir: - trafodaeth ar agwedd ar eiriadur Thomas Charles, a gyhoeddwyd yn wreiddiol dau gan mlynedd yn ôl. (Bydd yr ysgrif o ddiddordeb yn wyneb y ffaith ei bod hi hefyd eleni yn ddau gan mlynedd oddi ar ordeinio gweindogion cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd, bellach Eglwys Bresbyteraidd Cymru.) - ymdriniaeth ar gyfraniad y Gweithgor Efengylaidd i argraffiad diwygiedig Y Beibl Cymraeg Newydd, pwnc sydd heb ei drafod cyn hyn. - trafodaeth ar ddylanwad syniadau a dulliau’r Americanwr Charles Finney ar ddiwygiad 1858-60 yng Nghymru. - trafodaeth ar berthynas yr Annibynwyr a Chyffesion. Y 5 ysgrif a geir yn y gyfrol fydd (ynghyd a’r awduron): - Athrawiaeth yr Ysgrythur yng Ngeiriadur Thomas Charles – Geraint Lloyd - Yr Annibynwyr Cymraeg a Chyffesion – Noel Gibbard - Y Beibl Cymraeg Newydd: Cyfraniad Y Gweithgor Efengylaidd – Iwan Rhys Jones - Adfywiad 1858-60 – Gwyn Davies - Hanes Cynhadledd y Bala/Dylanwad Martyn Lloyd-Jones – Eryl Davies