Dyma’r gyfrol gyntaf o Ysgrifau Beirniadol dan olygyddiaeth Tudur Hallam ac Angharad Price. Mae hon, fel ei rhagflaenwyr, yn cynnwys amrywiaeth o erthyglau beirniadol sydd yn cynnig golwg newydd a ffres ar lenyddiaeth a diwylliant Cymru a thu hwnt. Ymhlith pynciau’r gyfrol hon y mae’r canlynol: ● cymharu llythyrau Saunders Lewis a Kate Roberts â gohebiaeth George Sand a Gustave Flaubert ● cyflwyno ‘Marwnad Owain ab Urien’ i ddisgyblion chweched dosbarth ● trafod y syniad o ‘hanfod’ mewn llenyddiaeth Gymraeg gan roi sylw penodol i ddatblygiad tri bardd cyfoes ● archwilio’r ‘gofod hybrid’ yn un o gerddi Dafydd ap Gwilym ● gosod Dic Jones mewn perthynas â swydd y poet laureate yn Saesneg ● edrych ar rôl genedlaetholgar y cyfieithiadau Saesneg o waith Daniel Owen ● ail-asesu’r syniad o Theatr yr Absẃrd Mae’r cyfranwyr yn gyfuniad o enwau newydd ac enwau beirniaid llenyddol sefydledig mewn sawl disgyblaeth wahanol, sef Manon Mathias, Marged Haycock, Tudur Hallam, Angharad Naylor, Peredur Lynch, Adam Pearce, Hannah Sams. Cyflwynir y rhifyn hwn i'r Athro M Wynn Thomas, ac mae cyfweliad dadlennol rhyngddo ac un o’r golygyddion yn cloi’r gyfrol.