Mae Cardiau Adolygu’r Gyfraith – Y Gyfraith yn ddull newydd a chyffrous o ddysgu a deall cynnwys allweddol Safon UG y Gyfraith ac maen nhw’n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i’ch gradd. Mae pob cerdyn poced yn canolbwyntio ar is-bwnc pwysig. Mae pedwar cwestiwn byr ar flaen pob cerdyn ac, ar y cefn, mae’r atebion i’r cwestiynau, ynghyd â nodyn gan yr arholwr a sail y gwerthuso. Mae’r rhain yn amlygu’r pethau pwysig y mae angen i chi eu hystyried er mwyn i chi baratoi’n dda at eich arholiad. Mae’r bocs cardiau hwn yn cynnwys 100 o gardiau a 400 o gwestiynau ac atebion. Mae’r cardiau’n ddelfrydol ar gyfer adolygu’n gyflym unrhyw le, unrhyw bryd, naill ai trwy brofi eich hun neu drwy brofi ffrind. Defnyddiwch nhw dro ar ôl tro nes i chi wybod a deall yr holl gynnwys. Mae hyn yn llawer mwy effeithiol nag adolygu goddefol - bydd eich ymdrechion yn siŵr o arwain at lwyddiant!