Tybed gan bwy y cawsoch chi wersi gyrru? Efallai mai paratoi at y prawf gyrru yr ydach chi ar hyn o bryd? Profiad eithaf cynhyrfus ydi eistedd tu ôl i lyw car am y tro cyntaf a mentro ar ddreifio eich milltir neu ddwy gyntaf erioed. I sicrhau eich bod yn medru gyrru yn gwbl ddiogel ac heb ddysgu yr un cast drwg, mae'n hanfodol mynd at hyfforddwr cymwysedig – un fydd yn eich rhoi ar ben y ffordd yn llythrennol ac sy'n gallu eich cyfarwyddo yn dawel a di-ffwdan, fel eich bod yn meithrin yr hyder a'r sicrwydd y byddwch yn yrrwr gofalus ar ein ffyrdd. Ym mhentref Efailnewydd ar gyrion Pwllheli, mae hyfforddwr gyrru profiadol yn cartrefu. Bellach mae ganddo dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad hyfforddi ac yn ogystal â hynny mae ganddo stori dda i'w hadrodd. Dewch am dro hefo Thomas Owen Williams, Ysgol Yrru Dwyfor.